Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 44:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna aeth y dyn â fi yn ôl at giât allanol y cysegr sy'n wynebu'r dwyrain, ond roedd wedi ei chau.

2. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Bydd y giât yma yn aros wedi ei chau. Does neb yn cael mynd trwyddi. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi mynd trwyddi, felly rhaid iddi aros ar gau.

3. Dim ond pennaeth y wlad sydd i gael eistedd yn y fynedfa i fwyta o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yn mynd i mewn drwy'r cyntedd ochr ac yn mynd allan yr un ffordd.”

4. Yna aeth y dyn â fi i'r iard fewnol drwy'r giât sy'n wynebu'r gogledd o flaen y deml. Wrth i mi edrych, ron i'n gweld ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi'r deml a dyma fi'n mynd ar fy ngwyneb ar lawr.

5. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, dw i am i ti sylwi ar hyn. Edrych yn ofalus a gwrando'n astud ar bopeth dw i'n ei ddweud am reolau a deddfau teml yr ARGLWYDD. Sylwa'n fanwl ar bob mynedfa i'r deml a'r drysau allan o'r cysegr.

6. Dywed wrth y rebeliaid, pobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dyna ddigon! Mae'r holl bethau ffiaidd yma wedi mynd yn rhy bell!

7. Dych chi'n dod â phobl o'r tu allan i weithio yn y cysegr, paganiaid llwyr sy'n dangos dim parch ata i. Dych chi'n llygru'r deml drwy gynnig beth sydd piau fi – sef y brasder a'r gwaed – iddyn nhw. Dych chi wedi torri'r ymrwymiad rhyngon ni drwy wneud yr holl bethau ffiaidd yma.

8. Dych chi ddim wedi cadw'r rheolau wrth drin y pethau sanctaidd; dych chi wedi gadael i baganiaid edrych ar ôl y lle yma!

9. Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dydy'r paganiaid sy'n byw gyda'm pobl Israel ddim i gael mynd i mewn i'r cysegr eto.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 44