Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 43:16-27 beibl.net 2015 (BNET)

16. Mae top yr allor ei hun yn chwe metr a chwarter o hyd a chwe metr a chwarter o led,

17. gyda sil sy'n ei gwneud yn saith metr a chwarter bob ffordd. Mae'r ymyl yn ddau ddeg chwech centimetr gyda gwter bum deg dau centimetr a hanner o led o'i chwmpas. Mae'r grisiau yn mynd i fyny ati o'r ochr ddwyreiniol.”

18. Wedyn dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dyma'r rheolau am yr offrymau i'w llosgi a'r gwaed sydd i'w sblasio ar yr allor pan fydd wedi ei hadeiladu.

19. Rhaid rhoi tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod i'r offeiriaid o lwyth Lefi sy'n ddisgynyddion Sadoc ac sy'n dod ata i i'm gwasanaethu i.

20. Dylid cymryd peth o'r gwaed a'i roi ar bedwar corn yr allor, ar bedair cornel y sil a reit rownd yr ymyl. Bydd yn ei gwneud yn lân ac yn iawn i'w defnyddio.

21. Wedyn rhaid cymryd corff y tarw sy'n offrwm i lanhau o bechod a'i losgi yn y lle iawn tu allan i'r cysegr.

22. “‘Yna ar yr ail ddiwrnod rhaid offrymu bwch gafr sydd â dim o'i le arno yn offrwm i lanhau o bechod. Byddan nhw'n glanhau yr allor, fel y gwnaethon nhw cyn offrymu'r tarw.

23. Ar ôl ei glanhau, rhaid offrymu tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno a hefyd hwrdd sydd â dim byd o'i le arno.

24. Rhaid eu cyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD. Bydd yr offeiriaid yn taenu halen arnyn nhw, ac yna ei rhoi nhw yn offrwm i'w losgi'n llwyr i'r ARGLWYDD.

25. “‘Rwyt i gyflwyno bwch gafr bob dydd am saith diwrnod, yn offrwm i lanhau o bechod, a hefyd tarw ifanc a hwrdd, y ddau yn anifeiliaid heb unrhyw beth o'i le arnyn nhw.

26. Am saith diwrnod byddan nhw'n gwneud yr allor yn lân ac yn iawn i'w defnyddio. Dyna sut mae'r allor i gael ei chysegru.

27. Ar ôl gwneud hynny, o'r wythfed diwrnod ymlaen bydd yr offeiriaid yn gallu cyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD; a bydda i'n eich derbyn chi,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 43