Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 42:7-13 beibl.net 2015 (BNET)

7. Roedd wal dau ddeg chwech metr o hyd rhwng yr ystafelloedd a'r iard allanol.

8. Roedd y bloc o ystafelloedd oedd yn wynebu'r iard allanol yn ddau ddeg chwech metr o hyd, ond y rhai oedd yn wynebu'r deml yn bum deg dau metr a hanner.

9. Roedd mynedfa i'r ystafelloedd isaf o'r iard allanol ar yr ochr ddwyreiniol.

10. Ar yr ochr ddeheuol ar hyd wal yr iard allanol roedd bloc arall o ystafelloedd gyferbyn â'r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol.

11. Roedd llwybr o'u blaenau nhw. Roedden nhw'n union yr un fath â'r ystafelloedd ar yr ochr ogleddol. Roedden nhw yr un hyd a lled â'r lleill, a'r drysau a phopeth arall yn yr un lle.

12. Roedd y drysau'n wynebu'r de, ac roedd mynedfa i'r ystafelloedd ar yr ochr ddwyreiniol.

13. A dyma'r dyn yn dweud wrtho i: “Mae'r ystafelloedd yma i'r gogledd a'r de, ac sy'n wynebu'r iard sydd ar wahân, yn ystafelloedd sydd wedi eu cysegru. Dyna lle mae'r offeiriaid sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn bwyta'r offrymau sanctaidd. Dyna lle byddan nhw'n gosod yr offrymau – yr offrwm o rawn, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r ystafelloedd yma wedi eu cysegru i'r pwrpas hwnnw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 42