Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 42:4-8 beibl.net 2015 (BNET)

4. O flaen yr ystafelloedd roedd llwybr pum metr a chwarter o led a pum deg dau metr a hanner o hyd. Roedd eu drysau'n wynebu'r gogledd.

5. Roedd yr ystafelloedd ar y llawr uchaf yn fwy cul, am fod y galerïau yn cymryd mwy o le nag ar y llawr isaf a'r llawr canol.

6. Am eu bod ar dair lefel, a heb golofnau i'w cynnal fel yr ystafelloedd yn yr iard, roedd yr ystafelloedd uwch wedi eu gosod yn bellach yn ôl na'r rhai oddi tanyn nhw.

7. Roedd wal dau ddeg chwech metr o hyd rhwng yr ystafelloedd a'r iard allanol.

8. Roedd y bloc o ystafelloedd oedd yn wynebu'r iard allanol yn ddau ddeg chwech metr o hyd, ond y rhai oedd yn wynebu'r deml yn bum deg dau metr a hanner.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 42