Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 42:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna aeth y dyn â fi i'r iard allanol, i'r ochr ogleddol. Roedd bloc o ystafelloedd yno gyferbyn â'r iard sydd ar wahân ac wrth ymyl yr adeilad ger y wal ogleddol.

2. Roedd yn bum deg dau metr a hanner o hyd ac yn ddau ddeg chwech metr a chwarter o led.

3. Roedd y bloc yma o ystafelloedd yn edrych dros yr iard fewnol oedd yn ddeg metr a hanner o led un ochr, a dros bafin yr iard allanol ar yr ochr arall. Roedd wedi ei adeiladu ar dri llawr.

4. O flaen yr ystafelloedd roedd llwybr pum metr a chwarter o led a pum deg dau metr a hanner o hyd. Roedd eu drysau'n wynebu'r gogledd.

5. Roedd yr ystafelloedd ar y llawr uchaf yn fwy cul, am fod y galerïau yn cymryd mwy o le nag ar y llawr isaf a'r llawr canol.

6. Am eu bod ar dair lefel, a heb golofnau i'w cynnal fel yr ystafelloedd yn yr iard, roedd yr ystafelloedd uwch wedi eu gosod yn bellach yn ôl na'r rhai oddi tanyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 42