Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 40:6-21 beibl.net 2015 (BNET)

6. Yna aeth at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain. Dringodd i fyny'r grisiau a mesur y trothwy allanol. Roedd yn dri metr o ddyfnder.

7. Roedd cilfachau i'r gwarchodwyr bob ochr i'r fynedfa – pob un yn dri metr sgwâr, gyda wal dau fetr a hanner rhyngddyn nhw. Roedd trothwy mewnol y fynedfa i'r ystafell gyntedd o flaen cwrt y deml yn dri metr o ddyfnder.

8. Yna mesurodd yr ystafell gyntedd.

9. Roedd yn bedwar metr o hyd, gyda colofnau oedd yn fetr o drwch. Roedd y cyntedd hwn yn wynebu cwrt y deml.

10. Roedd tair cilfach bob ochr i'r fynedfa, sef y giât ddwyreiniol. Roedden nhw i gyd yr un faint, a'r waliau rhyngddyn nhw yn mesur yr un faint.

11. Roedd lled y fynedfa yn bum metr a chwarter, a'i hyd bron yn saith metr.

12. Roedd wal fach hanner metr o daldra o flaen pob un o'r cilfachau, a'r cilfachau eu hunain yn dri metr sgwâr.

13. Yna mesurodd led y fynedfa o'r to uwchben wal gefn un gilfach i'r to uwchben wal gefn y gilfach gyferbyn â hi. Roedd yn un deg tri metr.

14. Mesurodd y colofnau i gyd (o du blaen y fynedfa i gwrt y deml), ac roedden nhw'n dri deg un metr a hanner o uchder.

15. Mesurodd y pellter o du blaen y fynedfa i du blaen yr ystafell gyntedd fewnol. Roedd yn ddau ddeg chwech metr.

16. Roedd yna ffenestri cul yn waliau cilfachau'r gwarchodwyr ac o gwmpas yr ystafell gyntedd. Ac roedd y colofnau wedi eu haddurno gyda coed palmwydd.

17. Yna aeth â fi allan i gwrt allanol y deml. Roedd yna bafin o gwmpas yr iard, a tri deg o ystafelloedd o gwmpas y pafin.

18. Roedd y pafin yn cysylltu'r giatiau, ac roedd yr un lled a'r giatiau eu hunain. Dyma'r pafin isaf.

19. Yna dyma fe'n mesur y pellter rhwng y tu mewn i'r giât isaf a tu blaen yr iard fewnol. Roedd yn bum deg dau metr a hanner.Aeth â fi wedyn o'r ochr ddwyreiniol i'r ochr ogleddol.

20. Mesurodd hyd a lled y fynedfa i'r iard allanol sy'n wynebu'r gogledd.

21. Roedd y cilfachau (tair bob ochr), y colofnau a'r ystafell gyntedd yr un fath â'r giât gyntaf: dau ddeg chwech metr o hyd ac un deg tri metr o led.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 40