Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 40:38-49 beibl.net 2015 (BNET)

38. Roedd drws i mewn i ystafell arall wrth ymyl ystafell y cyntedd. Dyma lle roedd yr offrymau i'w llosgi yn cael eu golchi.

39. Yn ystafell gyntedd y fynedfa roedd dau fwrdd bob ochr, lle roedd yr anifeiliaid ar gyfer y gwahanol offrymau yn cael eu lladd – yr offrwm i'w losgi, yr offrwm i lanhau o bechod, a'r offrwm i gyfaddef bai.

40. Roedd byrddau tu allan i'r ystafell gyntedd hefyd, dau bob ochr i'r grisiau sy'n mynd at fynedfa'r gogledd.

41. Felly roedd wyth bwrdd i gyd – pedwar y tu allan i'r fynedfa a pedwar y tu mewn – lle roedd yr anifeiliaid i'w haberthu yn cael eu lladd.

42. Roedd y pedwar bwrdd ar gyfer yr offrymau i'w llosgi wedi eu cerfio o garreg. Roedden nhw tua wyth deg centimetr sgwâr, a hanner can centimetr o uchder. Roedd yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio i ladd yr anifeiliaid yn cael eu hongian ar

43. fachau 75 milimetr o hyd oedd ar y waliau o gwmpas. Roedd cyrff yr anifeiliaid oedd i'w haberthu i'w gosod ar y byrddau.

44. Y tu allan i'r giât yn yr iard fewnol roedd dwy ystafell – un wrth ochr y giât ogleddol yn wynebu'r de, a'r llall wrth ochr y giât ddeheuol yn wynebu'r gogledd.

45. A dyma'r dyn yn dweud wrtho i, “Ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am y deml ydy'r un sy'n wynebu'r de,

46. ac ystafell yr offeiriaid sy'n gofalu am yr allor ydy'r un sy'n wynebu'r gogledd. Disgynyddion Sadoc ydy'r dynion yma, sef yr unig rai o ddisgynyddion Lefi sy'n cael mynd yn agos at yr ARGLWYDD i'w wasanaethu e.”

47. Yna mesurodd yr iard. Roedd yn bum deg dau metr a hanner sgwâr, gyda'r allor yn sefyll o flaen y deml.

48. Aeth â fi at gyntedd y deml ei hun a mesur ei dwy golofn. Roedden nhw tua dau fetr a hanner sgwâr. Roedd y giât yn saith metr o led a'r waliau bob ochr yn fetr a hanner o drwch.

49. Roedd hyd y cyntedd yn ddeg metr a hanner a'i led yn bum metr a thri chwarter, gyda deg gris yn mynd i fyny ato a colofnau bob ochr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 40