Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 40:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd hi'n ddechrau'r flwyddyn, ddau ddeg pum mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o'r mis cyntaf. (Sef un deg pedair blynedd ar ôl i ddinas Jerwsalem gael ei dinistrio). Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma fe'n mynd â fi i wlad Israel.

2. Aeth â fi yno mewn gweledigaeth a'm gosod ar ben mynydd uchel iawn. Roedd adeiladau i'w gweld i gyfeiriad y de, tebyg i ddinas.

3. Dyma fe'n mynd â fi yno; ac yno'n sefyll o flaen giât y ddinas roedd dyn oedd yn ddisglair fel pres. Roedd ganddo dâp mesur a ffon fesur yn ei law.

4. Dwedodd wrtho i, “Ddyn, edrych yn ofalus a gwrando'n astud. Dw i eisiau i ti sylwi'n fanwl ar bopeth dw i'n ddangos i ti. Dyna pam mae Duw wedi dod â ti yma. Rwyt i fynd yn ôl a dweud wrth bobl Israel am bopeth rwyt ti wedi ei weld.”

5. Roedd wal o gwmpas adeiladau'r deml. Roedd ffon fesur tua tri metr o hyd yn llaw y dyn. Roedd y wal yn dri metr o drwch a tri metr o uchder.

6. Yna aeth at y giât oedd yn wynebu'r dwyrain. Dringodd i fyny'r grisiau a mesur y trothwy allanol. Roedd yn dri metr o ddyfnder.

7. Roedd cilfachau i'r gwarchodwyr bob ochr i'r fynedfa – pob un yn dri metr sgwâr, gyda wal dau fetr a hanner rhyngddyn nhw. Roedd trothwy mewnol y fynedfa i'r ystafell gyntedd o flaen cwrt y deml yn dri metr o ddyfnder.

8. Yna mesurodd yr ystafell gyntedd.

9. Roedd yn bedwar metr o hyd, gyda colofnau oedd yn fetr o drwch. Roedd y cyntedd hwn yn wynebu cwrt y deml.

10. Roedd tair cilfach bob ochr i'r fynedfa, sef y giât ddwyreiniol. Roedden nhw i gyd yr un faint, a'r waliau rhyngddyn nhw yn mesur yr un faint.

11. Roedd lled y fynedfa yn bum metr a chwarter, a'i hyd bron yn saith metr.

12. Roedd wal fach hanner metr o daldra o flaen pob un o'r cilfachau, a'r cilfachau eu hunain yn dri metr sgwâr.

13. Yna mesurodd led y fynedfa o'r to uwchben wal gefn un gilfach i'r to uwchben wal gefn y gilfach gyferbyn â hi. Roedd yn un deg tri metr.

14. Mesurodd y colofnau i gyd (o du blaen y fynedfa i gwrt y deml), ac roedden nhw'n dri deg un metr a hanner o uchder.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 40