Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 4:8-15 beibl.net 2015 (BNET)

8. Bydda i'n dy rwymo di gyda rhaffau, a byddi'n methu symud na throi drosodd nes bydd dyddiau'r gwarchae drosodd.

9. “Wedyn cymer ŷd, haidd, ffa, ffacbys, miled a sbelt, a'u cadw mewn llestr gyda'i gilydd. Defnyddia'r cymysgedd i wneud bara i ti dy hun. Dyna fyddi di'n ei fwyta pan fyddi'n gorwedd ar dy ochr am dri chant naw deg diwrnod.

10. Dim ond wyth owns y dydd fyddi di'n ei gael i'w fwyta, a hynny yr un amser bob dydd.

11. Wedyn ychydig dros hanner litr o ddŵr i'w yfed – hwnnw eto i'w yfed yr un amser bob dydd.

12. Gwna rywbeth fel bara haidd fflat ohono, a defnyddio carthion dynol wedi eu sychu yn danwydd i'w bobi o flaen pawb.

13. Gwna hyn fel darlun symbolaidd o'r ffaith y bydd pobl Israel yn bwyta bwyd sy'n aflan ar ôl cael eu gyrru i ganol y gwledydd paganaidd.”

14. “O, na! ARGLWYDD, Meistr, Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n ‛aflan‛ o'r blaen – fel carcas anifail oedd wedi marw ohono'i hun, neu un gafodd ei ladd gan anifeiliaid gwylltion, neu unrhyw gig sy'n ‛aflan‛.”

15. Felly dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, cei di ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dynol. Cei bobi dy fara ar hwnnw.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 4