Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 4:11-17 beibl.net 2015 (BNET)

11. Wedyn ychydig dros hanner litr o ddŵr i'w yfed – hwnnw eto i'w yfed yr un amser bob dydd.

12. Gwna rywbeth fel bara haidd fflat ohono, a defnyddio carthion dynol wedi eu sychu yn danwydd i'w bobi o flaen pawb.

13. Gwna hyn fel darlun symbolaidd o'r ffaith y bydd pobl Israel yn bwyta bwyd sy'n aflan ar ôl cael eu gyrru i ganol y gwledydd paganaidd.”

14. “O, na! ARGLWYDD, Meistr, Dw i erioed wedi bwyta dim byd sy'n ‛aflan‛ o'r blaen – fel carcas anifail oedd wedi marw ohono'i hun, neu un gafodd ei ladd gan anifeiliaid gwylltion, neu unrhyw gig sy'n ‛aflan‛.”

15. Felly dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, cei di ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dynol. Cei bobi dy fara ar hwnnw.”

16. Yna aeth yn ei flaen i ddweud, “Yn fuan iawn fydd yna ddim bwyd yn Jerwsalem. Bydd pobl yn poeni am fod bwyd yn brin, ac yn anobeithio am fod y cyflenwad dŵr yn isel.

17. Byddan nhw'n edrych mewn dychryn ar ei gilydd yn llwgu. Byddan nhw'n gwywo'n ddim o achos eu pechodau.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 4