Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 4:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Ddyn, cymer fricsen fawr, ei gosod o dy flaen a thynnu llun map o ddinas Jerwsalem arni.

2. Wedyn gwna fodel o fyddin yn gwarchae arni: waliau gwarchae, ramp, gwersylloedd milwyr ac offer fel hyrddod rhyfel o'i chwmpas.

3. Yna cymer badell haearn, a'i gosod i fyny fel wal haearn rhyngot ti a'r ddinas. Wedyn gwylia hi, drwy'r amser, fel taset ti'n gwarchae arni. Mae beth fyddi di'n wneud yn rhybudd i bobl Israel.

4. “Yna dw i eisiau i ti orwedd ar dy ochr chwith am dri chant naw deg diwrnod. Byddi'n dioddef wrth orfod cario baich pechod pobl Israel

5. (diwrnod am bob blwyddyn maen nhw wedi pechu). Wedyn ar ôl i ti gario baich pechod pobl Israel,

6. gorwedd ar dy ochr dde am bedwar deg diwrnod. Byddi'n cario baich pechod pobl Jwda (sef diwrnod am bob blwyddyn eto).

7. “Dal ati i wylio'r model o'r gwarchae ar Jerwsalem. Torcha dy lewys, a proffwyda yn erbyn y ddinas.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 4