Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 39:17-29 beibl.net 2015 (BNET)

17. “A ti, ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwylltion at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa – gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed.

18. Cewch fwyta cyrff milwyr ac yfed gwaed penaethiaid y gwledydd – hyrddod, ŵyn, bychod geifr, teirw, a lloi wedi eu pesgi yn Bashan.

19. Byddwch yn stwffio eich hunain ar frasder, ac yn meddwi ar waed yn y wledd dw i wedi ei pharatoi i chi.

20. Byddwch yn dod at fy mwrdd ac yn gwledda ar gnawd ceffylau a marchogion, arwyr a milwyr o bob math,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

21. “‘Bydda i'n dangos fy ysblander i'r cenhedloedd. Bydd y gwledydd i gyd yn fy ngweld i'n eu barnu nhw, ac mor rymus ydw i.

22. O hynny ymlaen, bydd pobl Israel yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw.

23. Bydd y cenhedloedd yn deall fod pobl Israel wedi eu cymryd yn gaeth am bechu trwy fod yn anffyddlon i mi. Felly dyma fi'n troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw ac yn gadael i'w gelynion eu lladd nhw.

24. Dyma nhw'n cael beth roedden nhw'n ei haeddu am wneud pethau mor aflan a gwrthryfela yn fy erbyn i.’

25. “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i adfer sefyllfa pobl Jacob, a dangos trugaredd at bobl Israel. Dw i'n mynd i ddangos fy sêl dros fy enw sanctaidd.

26. Byddan nhw'n teimlo cywilydd go iawn am fod mor anffyddlon i mi, pan fyddan nhw'n byw yn saff yn y wlad a neb yn eu dychryn nhw.

27. Bydda i'n dangos mor wych ydw i trwy beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Bydda i wedi dod â nhw adre o wledydd eu gelynion.

28. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw. Fi wnaeth eu cymryd nhw'n gaeth i'r cenhedloedd, a fi fydd yn eu casglu nhw'n ôl i'w gwlad eu hunain. Fydda i'n gadael neb ar ôl.

29. Fydda i ddim yn troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw byth eto. Bydda i'n tywallt fy ysbryd ar bobl Israel.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 39