16. (Bydd tref o'r enw Hamona yno hefyd.) Byddan nhw'n glanhau y tir.’
17. “A ti, ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwylltion at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa – gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed.
18. Cewch fwyta cyrff milwyr ac yfed gwaed penaethiaid y gwledydd – hyrddod, ŵyn, bychod geifr, teirw, a lloi wedi eu pesgi yn Bashan.
19. Byddwch yn stwffio eich hunain ar frasder, ac yn meddwi ar waed yn y wledd dw i wedi ei pharatoi i chi.
20. Byddwch yn dod at fy mwrdd ac yn gwledda ar gnawd ceffylau a marchogion, arwyr a milwyr o bob math,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
21. “‘Bydda i'n dangos fy ysblander i'r cenhedloedd. Bydd y gwledydd i gyd yn fy ngweld i'n eu barnu nhw, ac mor rymus ydw i.
22. O hynny ymlaen, bydd pobl Israel yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD eu Duw nhw.
23. Bydd y cenhedloedd yn deall fod pobl Israel wedi eu cymryd yn gaeth am bechu trwy fod yn anffyddlon i mi. Felly dyma fi'n troi i ffwrdd oddi wrthyn nhw ac yn gadael i'w gelynion eu lladd nhw.
24. Dyma nhw'n cael beth roedden nhw'n ei haeddu am wneud pethau mor aflan a gwrthryfela yn fy erbyn i.’