Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 39:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Ddyn, proffwyda yn erbyn Gog, a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti Gog, tywysog Meshech a Twbal!

2. Dw i'n mynd i dy droi di rownd, a dy lusgo di o'r gogledd pell i ymosod ar fynyddoedd Israel.

3. Ond wedyn bydda i'n taro'r bwa o dy law dde a'r saethau o dy law chwith.

4. Byddi di a dy filwyr, a phawb arall sydd gyda ti, yn syrthio'n farw ar fynyddoedd Israel. Byddi'n fwyd i bob math o adar rheibus ac anifeiliaid gwylltion.

5. Byddi'n disgyn yn farw ar dir agored. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.

6. Bydda i'n anfon tân ar Magog a'r bobl sy'n byw ar yr arfordir, ac sy'n teimlo eu bod nhw mor saff. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

7. Dw i ddim yn mynd i adael i fy enw sanctaidd i gael ei sarhau o hyn allan. A bydd y cenhedloedd yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel.

8. “‘Mae'n dod! Ydy, mae'n mynd i ddigwydd!’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Dyma'r diwrnod soniais i amdano.

9. Bydd y rhai sy'n byw yn y trefi yn Israel yn mynd allan i losgi'r arfau rhyfel i gyd – y tariannau bach a mawr, pob bwa saeth, pastwn rhyfel a gwaywffon – byddan nhw'n dal i'w llosgi am saith mlynedd!

10. Fydd dim angen coed o gefn gwlad na thorri coed o'r fforestydd. Byddan nhw'n llosgi'r arfau. Byddan nhw'n ysbeilio a rheibio y bobl oedd wedi eu rheibio nhw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

11. “‘Bydda i wedi paratoi mynwent anferth yn Israel i Gog a'i filwyr – yn Nyffryn y Teithwyr, i'r dwyrain o'r Môr Marw. Bydd y dyffryn yn cael ei gau i deithwyr, am fod Gog a'i fyddin i gyd wedi eu claddu yno. Byddan nhw'n galw'r dyffryn yn Ddyffryn Hamon-Gog o hynny ymlaen.

12. Bydd yn cymryd saith mis i bobl Israel lanhau y tir o'r cyrff, a'i claddu nhw i gyd.

13. Bydd pawb yn Israel yn gorfod helpu gyda'r gwaith. Bydd y diwrnod y bydda i'n dangos mor wych ydw i yn ddiwrnod mawr i bobl Israel.

14. “‘Ar ddiwedd y saith mis bydd criwiau o ddynion yn cael eu penodi i chwilio drwy'r wlad am unrhyw gyrff sydd wedi eu gadael ar ôl, a'u claddu nhw. Byddan nhw gwneud yn siŵr fod y tir wedi ei lanhau'n gyfan gwbl.

15. Pan fydd un o'r dynion yn dod o hyd i asgwrn dynol byddan nhw'n marcio'r fan gydag arwydd er mwyn i'r rhai sy'n eu claddu ei gymryd i ffwrdd a'i gladdu yn y fynwent dorfol yn Nyffryn Hamon-Gog.

16. (Bydd tref o'r enw Hamona yno hefyd.) Byddan nhw'n glanhau y tir.’

17. “A ti, ddyn, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Galw'r adar a'r anifeiliaid gwylltion at ei gilydd. Dywed wrthyn nhw, “Dewch yma. Dw i wedi paratoi lladdfa – gwledd i chi ar fynyddoedd Israel! Dewch i fwyta eu cnawd ac yfed eu gwaed.

18. Cewch fwyta cyrff milwyr ac yfed gwaed penaethiaid y gwledydd – hyrddod, ŵyn, bychod geifr, teirw, a lloi wedi eu pesgi yn Bashan.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 39