Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 38:16-23 beibl.net 2015 (BNET)

16. Byddi'n dod fel cwmwl du dros y wlad. Ac yn y dyfodol pan fydd hyn yn digwydd, Gog, bydd y gwledydd i gyd yn cydnabod pwy ydw i. Bydd beth fydd yn digwydd i ti, Gog, yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i.

17. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ai ti ydy'r un gwnes i sôn amdano yn y gorffennol drwy fy ngweision y proffwydi yn Israel? Roedden nhw'n proffwydo yn bell yn ôl, flwyddyn ar ôl blwyddyn, y byddwn i'n dod â ti yn eu herbyn nhw.

18. “‘“Y diwrnod hwnnw, pan fydd Gog yn ymosod ar wlad Israel, bydda i wedi cynhyrfu, a gwylltio'n lân.

19. Bydd tân fy ffyrnigrwydd yn llosgi. Bydd daeargryn yn ysgwyd gwlad Israel bryd hynny.

20. Bydd pawb a phopeth yn crynu mewn ofn o'm blaen i – pysgod, adar, anifeiliaid gwylltion, creaduriaid bach a phryfed, a phob person byw! Bydd y mynyddoedd yn cael eu bwrw i lawr, y clogwyni'n dryllio a pob wal sydd wedi ei hadeiladu yn syrthio.

21. Bydda i'n galw am gleddyf i ymosod arnat ti ar fynyddoedd Israel, Gog,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD. “Bydd dy filwyr yn dechrau ymladd yn erbyn ei gilydd.

22. Bydda i'n barnu Gog gydag afiechydon ofnadwy, a thrais. Bydd storm yn arllwys i lawr arno fe a'i fyddin, a phawb arall sydd gyda nhw – cenllysg, tân a lafa.

23. Dw i'n mynd i godi i fyny a dangos mor wych ydw i. Bydda i'n dangos pwy ydw i i'r gwledydd i gyd. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 38