Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 38:10-16 beibl.net 2015 (BNET)

10. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny byddi di'n cael syniad, ac yn cynllwynio i wneud drwg.

11. “Dw i am ymosod ar Israel. Gwlad o drefi heb waliau na giatiau a barrau i'w hamddiffyn! Fydd ei phobl ddim yn disgwyl y peth; maen nhw'n teimlo mor saff!

12. Dw i'n mynd i ysbeilio a rheibio'r bobl sydd wedi eu casglu at ei gilydd o'r gwledydd, yn byw lle roedd adfeilion, yn ffermio gwartheg a marchnata, ac yn meddwl mai nhw ydy canolbwynt y byd!”

13. Bydd Sheba a Dedan a marchnatwyr Tarshish yn gofyn, “Wyt ti wedi dod i ysbeilio? Wyt ti wedi casglu dy fyddin i reibio'r wlad – cymryd yr arian a'r aur, y gwartheg a phopeth arall sydd ganddyn nhw?”’

14. “Felly ddyn, proffwyda a dywed wrth Gog: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bryd hynny, pan fydd fy mhobl Israel yn teimlo'n saff, bydd rhywbeth yn tynnu dy sylw.

15. Byddi'n gadael dy wlad yn y gogledd pell, ac yn dod gyda tyrfa enfawr – dy gafalri a dy fyddin fawr.

16. Byddi'n dod fel cwmwl du dros y wlad. Ac yn y dyfodol pan fydd hyn yn digwydd, Gog, bydd y gwledydd i gyd yn cydnabod pwy ydw i. Bydd beth fydd yn digwydd i ti, Gog, yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 38