Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 38:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi

2. “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Gog o dir Magog, sef y tywysog sy'n teyrnasu dros Meshech a Twbal. Proffwyda yn ei erbyn,

3. a dweud: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Gog, tywysog Meshech a Twbal.

4. Dw i'n mynd i dy droi di rownd, rhoi bachyn yn dy ên, a dy arwain di a dy fyddin i ryfel – gyda dy geffylau a dy farchogion arfog, yn dyrfa enfawr yn cario tariannau mawr a bach ac yn chwifio eu cleddyfau.

5. Bydd byddinoedd Persia, dwyrain Affrica a Libia gyda nhw. Hwythau hefyd wedi eu harfogi gyda thariannau a helmedau.

6. Hefyd Gomer a'i byddin, a Beth-togarma o'r gogledd pell, a llawer o bobloedd eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 38