Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 37:3-15 beibl.net 2015 (BNET)

3. Yna gofynnodd i mi, “Ddyn, oes gobaith i'r esgyrn yma ddod yn ôl yn fyw eto?” A dyma fi'n ateb, “Meistr, ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gwybod hynny.”

4. Yna dyma fe'n gofyn i mi broffwydo dros yr esgyrn, a dweud wrthyn nhw: “Esgyrn sychion, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.

5. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi anadl ynoch chi, a dod â chi yn ôl yn fyw.

6. Dw i'n mynd i roi cnawd arnoch chi, gewynnau a chyhyrau, a rhoi croen amdanoch chi. Wedyn bydda i'n rhoi anadl ynoch chi, a byddwch chi'n dod yn ôl yn fyw. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”

7. Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i. Ac wrth i mi wneud hynny dyma fi'n clywed sŵn ratlo, a dyma'r esgyrn yn dod at ei gilydd, pob un yn ôl i'w le.

8. Wrth i mi edrych dyma fi'n gweld gewynnau a chyhyrau'n dod arnyn nhw, a chroen yn ffurfio amdanyn nhw, ond doedd dim anadl ynddyn nhw.

9. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Proffwyda i'r anadl ddod. Ddyn, proffwyda a dweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tyrd anadl, o'r pedwar gwynt. Anadla ar y cyrff yma, iddyn nhw ddod yn ôl yn fyw.’”

10. Felly, dyma fi'n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i a dyma nhw'n dechrau anadlu. Roedden nhw'n fyw! A dyma nhw'n sefyll ar eu traed, yn un fyddin enfawr.

11. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Ddyn, pobl Israel ydy'r esgyrn yma. Maen nhw'n dweud, ‘Does dim gobaith! – dŷn ni wedi'n taflu i ffwrdd, fel esgyrn sychion.’

12. Ond dw i eisiau i ti broffwydo a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i agor eich beddau, a dod â chi allan yn fyw! O fy mhobl, dw i'n mynd i'ch arwain chi yn ôl i wlad Israel!

13. Pan fydda i'n agor eich beddau a dod â chi allan, byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

14. Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, a byddwch yn byw. Dw i'n mynd i'ch setlo chi i lawr yn ôl yn eich gwlad eich hunain, a byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. Mae beth dw i'n ddweud yn mynd i ddigwydd,’” meddai'r ARGLWYDD.

15. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 37