Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 37:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i, a dyma'i Ysbryd yn mynd â fi i ffwrdd ac yn fy ngosod yng nghanol dyffryn llydan. Roedd y dyffryn yn llawn o esgyrn.

2. Gwnaeth i mi gerdded o gwmpas drwy'i canol nhw, yn ôl ac ymlaen. Roedden nhw ym mhobman! Esgyrn sychion ar lawr y dyffryn i gyd.

3. Yna gofynnodd i mi, “Ddyn, oes gobaith i'r esgyrn yma ddod yn ôl yn fyw eto?” A dyma fi'n ateb, “Meistr, ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gwybod hynny.”

4. Yna dyma fe'n gofyn i mi broffwydo dros yr esgyrn, a dweud wrthyn nhw: “Esgyrn sychion, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 37