Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 36:5-20 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna ac wedi siarad yn gryf yn eu herbyn nhw. Yn arbennig Edom, sydd wedi bod mor sbeitlyd tuag ata i. Roedd hi wrth ei bodd yn cymryd y tir oddi arna i.’

6. “Felly dw i eisiau i ti broffwydo am wlad Israel, a dweud wrth y mynyddoedd a'r bryniau, y dyffrynnoedd a'r ceunentydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n wyllt gyda'r gwledydd yna am dy fod ti wedi gorfod eu diodde nhw'n dy fychanu di.

7. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n addo i ti – mae ei tro nhw i gael eu bychanu yn dod!

8. “‘Ond bydd dy ganghennau di yn tyfu, Israel fynyddig, a bydd ffrwythau'n pwyso'n drwm arnyn nhw; ffrwythau ar gyfer fy mhobl, Israel. Byddan nhw'n dod yn ôl adre'n fuan!

9. Gwranda, dw i ar dy ochr di. Dw i'n mynd i dy helpu di. Bydd y tir yn cael ei aredig eto, a chnydau'n cael eu plannu.

10. Bydd dy boblogaeth yn tyfu drwy'r wlad i gyd. Bydd pobl yn byw yn dy drefi, a'r adfeilion yn cael eu hadeiladu.

11. Bydd y wlad yn fwrlwm o fywyd eto – pobl ac anifeiliaid yn magu rhai bach. Bydd pobl yn byw ynot ti unwaith eto, a bydd pethau'n well arnat ti nag erioed o'r blaen. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

12. Bydda i'n dod â'm pobl Israel yn ôl i bob rhan o'r wlad. Byddan nhw'n etifeddu'r tir. A fyddi di ddim yn cymryd eu plant oddi arnyn nhw byth eto.

13. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae pobl yn cael hwyl ar dy ben di, ac yn dweud, “Mae Israel yn wlad sy'n dinistrio ei phobl ei hun – fydd dim plant ar ôl yno!”

14. Ond fyddwch chi ddim yn dinistrio'ch pobl a cholli'ch plant o hyn ymlaen, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

15. Fydda i ddim yn gadael i'r gwledydd eraill eich sarhau chi. Fydd dim rhaid i chi deimlo cywilydd o flaen pawb. Fyddwch chi ddim yn colli eich plant.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

16. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

17. “Ddyn, pan oedd pobl Israel yn byw yn eu gwlad eu hunain, roedden nhw wedi llygru'r wlad drwy'r ffordd roedden nhw'n ymddwyn. Roedd yn aflan, fel gwraig pan mae'n dioddef o'r misglwyf.

18. Felly dw i wedi tywallt fy llid arnyn nhw, am eu bod nhw wedi tywallt gwaed a llygru'r wlad gyda'i heilunod.

19. Dw i wedi eu gyrru nhw ar chwâl drwy'r gwledydd. Dw i wedi eu cosbi nhw am y ffordd roedden nhw'n ymddwyn.

20. “Ond wedyn, roedden nhw'n dal i sarhau fy enw sanctaidd ar ôl cyrraedd y gwledydd hynny. Roedd pobl yn dweud amdanyn nhw, ‘Maen nhw i fod yn bobl yr ARGLWYDD, ond maen nhw wedi colli eu tir!’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 36