Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 36:22-35 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Felly dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, bobl Israel, ond er mwyn cadw fy enw da – yr enw dych chi wedi ei sarhau ym mhobman.

23. Dw i'n mynd i ddangos mor wych ydy fy enw i – yr enw dych chi wedi ei sarhau ym mhobman. Bydd y gwledydd i gyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD. Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dangos yn glir iddyn nhw mor wych ydw i.

24. “‘Bydda i'n eich casglu chi a dod â chi allan o'r gwledydd i gyd, a mynd â chi yn ôl i'ch gwlad eich hunain.

25. Bydda i'n taenellu dŵr glân arnoch chi, a byddwch chi'n cael eich glanhau o bopeth sy'n eich gwneud chi'n aflan, ac yn stopio addoli eilun-dduwiau.

26. Bydda i'n rhoi calon newydd i chi, ac yn rhoi ysbryd newydd i chi. Byddai'n cymryd y galon garreg ystyfnig i ffwrdd ac yn rhoi calon newydd dyner i chi.

27. Dw i'n mynd i anadlu fy Ysbryd fy hun i mewn i chi, i wneud yn siŵr eich bod chi'n ufudd i mi ac yn gwneud beth sy'n iawn.

28. Wedyn byddwch chi'n cael byw yn y wlad rois i i'ch hynafiaid chi. Chi fydd fy mhobl i, a fi fydd eich Duw chi.

29. Bydda i'n eich achub chi o ganlyniadau'r holl bethau aflan wnaethoch chi. Byddai'n gwneud i'r caeau roi cnydau mawr i chi, yn lle anfon newyn arnoch chi.

30. Bydd digonedd o ffrwythau'n tyfu ar y coed, a bydd cnydau'r caeau i gyd yn llwyddo. Fyddwch chi byth eto'n gorfod cywilyddio am fod y gwledydd o'ch cwmpas chi'n eich gweld chi'n diodde o newyn.

31. Byddwch chi'n edrych yn ôl ac yn cofio'r holl bethau drwg wnaethoch chi, ac yn teimlo cywilydd ofnadwy am yr holl bechodau a'r pethau ffiaidd wnaethoch chi.

32. Ond dw i eisiau i hyn fod yn glir: Dw i ddim yn gwneud hyn er eich mwyn chi, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr. Dylech chi fod â chywilydd go iawn o'r ffordd dych chi wedi ymddwyn!

33. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan fydda i'n eich glanhau chi o'ch pechodau, bydda i'n dod â phobl yn ôl i fyw yn y trefi. Bydd yr adfeilion yn cael eu hadeiladu eto.

34. Bydd y tir anial yn cael ei drin a'i aredig eto, yn lle bod pawb yn ei weld wedi tyfu'n wyllt.

35. Bydd pobl yn dweud, “Mae'r wlad yma oedd yn anial wedi troi i fod fel gardd Eden unwaith eto. Mae'r trefi oedd yn adfeilion wedi eu hadeiladu eto, ac mae pobl yn byw ynddyn nhw!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 36