5. Bellach maen nhw ar chwâl am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion.
6. Mae fy nefaid wedi crwydro dros y mynyddoedd a'r bryniau uchel i gyd. Maen nhw ar wasgar drwy'r byd i gyd, a does neb yn edrych a chwilio amdanyn nhw.
7. “‘Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi:
8. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr, mae fy nefaid yn cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Mae'r bugeiliaid wedi gofalu amdanyn nhw eu hunain yn lle mynd i edrych am y defaid.
9. Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi:
10. Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dweud, “Dw i yn erbyn y bugeiliaid! Dw i'n ei dal nhw'n gyfrifol, a fyddan nhw ddim yn cael gofalu am y praidd o hyn ymlaen. Na, fydd dim mwy o ofalu am neb ond nhw eu hunain! Gân nhw ddim bwyta'r defaid eto; bydda i'n achub y defaid o'i gafael nhw.”
11. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid. A dw i'n mynd i ddod o hyd iddyn nhw.
12. Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i'n dod o hyd i'm praidd i. Bydda i'n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw ar y diwrnod tywyll, stormus hwnnw.
13. Dw i'n mynd i ddod â nhw adre o'r gwledydd eraill; dod â nhw yn ôl i'w tir eu hunain. Dw i'n mynd i adael iddyn nhw bori ar fryniau a dyffrynnoedd Israel, ble bynnag mae porfa iddyn nhw.
14. Ydw, dw i'n mynd i roi porfa iddyn nhw ar ben bryniau Israel. Byddan nhw'n gorwedd mewn porfa hyfryd ac yn bwydo ar laswellt cyfoethog bryniau Israel.
15. Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw, a rhoi lle iddyn nhw orwedd i lawr, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.
16. Dw i'n mynd i chwilio am y rhai sydd ar goll, a dod â'r rhai sydd wedi crwydro yn ôl adre. Dw i'n mynd i rwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu, a helpu'r rhai sy'n wan. Ond bydd y rhai cyfoethog a chryf yn cael eu dinistrio. Bydda i'n gofalu eu bod nhw'n cael beth maen nhw'n ei haeddu!
17. “‘Ie, dyma beth mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi'r defaid: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall, a rhwng yr hyrddod a'r bychod geifr.
18. Ydy bwydo ar borfa dda ddim digon i chi? Oes rhaid i chi sathru gweddill y borfa hefyd? Wrth yfed y dŵr glân oes rhaid i chi faeddu gweddill y dŵr drwy sathru'r mwd?
19. Pam ddylai gweddill fy nefaid i orfod bwyta'r borfa sydd wedi ei sathru gynnoch chi ac yfed dŵr sydd wedi ei faeddu?
20. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng y defaid tewion a'r defaid tenau.