Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 34:3-15 beibl.net 2015 (BNET)

3. Dych chi'n yfed eu llaeth nhw, yn gwisgo eu gwlân ac yn lladd yr ŵyn gorau i'w rhostio, ond dych chi ddim yn gofalu am y praidd!

4. Dych chi ddim wedi helpu'r rhai gwan, gwella y rhai sy'n sâl na rhwymo briwiau y rhai sydd wedi eu hanafu. Dych chi ddim wedi edrych am y rhai sydd wedi crwydro a mynd ar goll. Na, yn lle hynny, dych chi wedi eu rheoli nhw a'u bygwth fel meistri creulon.

5. Bellach maen nhw ar chwâl am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Maen nhw'n cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion.

6. Mae fy nefaid wedi crwydro dros y mynyddoedd a'r bryniau uchel i gyd. Maen nhw ar wasgar drwy'r byd i gyd, a does neb yn edrych a chwilio amdanyn nhw.

7. “‘Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi:

8. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, meddai'r ARGLWYDD, y Meistr, mae fy nefaid yn cael eu llarpio gan anifeiliaid gwylltion am fod dim bugail wedi gofalu amdanyn nhw. Mae'r bugeiliaid wedi gofalu amdanyn nhw eu hunain yn lle mynd i edrych am y defaid.

9. Felly, chi fugeiliaid, dyma neges yr ARGLWYDD i chi:

10. Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dweud, “Dw i yn erbyn y bugeiliaid! Dw i'n ei dal nhw'n gyfrifol, a fyddan nhw ddim yn cael gofalu am y praidd o hyn ymlaen. Na, fydd dim mwy o ofalu am neb ond nhw eu hunain! Gân nhw ddim bwyta'r defaid eto; bydda i'n achub y defaid o'i gafael nhw.”

11. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i fy hun am fynd allan i chwilio am fy nefaid. A dw i'n mynd i ddod o hyd iddyn nhw.

12. Fel mae bugail yn chwilio am ei braidd pan maen nhw wedi mynd ar chwâl, bydda i'n dod o hyd i'm praidd i. Bydda i'n eu hachub nhw o ble bynnag aethon nhw ar y diwrnod tywyll, stormus hwnnw.

13. Dw i'n mynd i ddod â nhw adre o'r gwledydd eraill; dod â nhw yn ôl i'w tir eu hunain. Dw i'n mynd i adael iddyn nhw bori ar fryniau a dyffrynnoedd Israel, ble bynnag mae porfa iddyn nhw.

14. Ydw, dw i'n mynd i roi porfa iddyn nhw ar ben bryniau Israel. Byddan nhw'n gorwedd mewn porfa hyfryd ac yn bwydo ar laswellt cyfoethog bryniau Israel.

15. Dw i fy hun yn mynd i ofalu amdanyn nhw, a rhoi lle iddyn nhw orwedd i lawr, meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 34