Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 34:21-31 beibl.net 2015 (BNET)

21. Dych chi'r rhai cryfion wedi gwthio'r rhai gwan o'r ffordd. Dych chi wedi eu cornio nhw a'i gyrru nhw i ffwrdd.

22. Ond dw i'n mynd i achub fy nefaid. Fyddan nhw ddim yn cael eu cam-drin o hyn ymlaen. Ydw, dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall.

23. “‘Dw i'n mynd i apwyntio un bugail i ofalu amdanyn nhw, sef fy ngwas Dafydd. Bydd e yn fugail arnyn nhw.

24. Fi, yr ARGLWYDD fydd eu Duw nhw, a'm gwas Dafydd fydd pennaeth y wlad i'w harwain nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.

25. “‘Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid gwylltion o'r tir. Byddan nhw'n saff i aros yn yr anialwch, ac yn gallu cysgu yn y goedwig hyd yn oed.

26. Bydda i'n eu bendithio nhw, a'r ardaloedd o gwmpas fy mryn hefyd. Bydd glaw yn disgyn ar yr adeg iawn; cawodydd yn dod â bendith!

27. Bydd ffrwythau'n tyfu ar y coed yng nghefn gwlad, a chnydau yn tyfu o'r tir. Byddan nhw i gyd yn teimlo'n saff. Byddan nhw'n gwybod mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n torri'r iau a'u gollwng nhw'n rhydd o afael y rhai wnaeth eu caethiwo nhw,

28. a fydd gwledydd eraill byth eto'n eu dinistrio nhw. Fydd anifeiliaid gwylltion ddim yn ymosod arnyn nhw. Byddan nhw'n hollol saff. Fyddan nhw'n ofni dim.

29. Bydda i'n gwneud i'w cnydau nhw lwyddo, a fyddan nhw byth yn dioddef o newyn eto. A fyddan nhw byth eto'n destun sbort i'r gwledydd o'u cwmpas.

30. Byddan nhw'n gwybod yn iawn wedyn fy mod i, yr ARGLWYDD eu Duw, gyda nhw, ac mai nhw, pobl Israel, ydy fy mhobl i.’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

31. “Chi, fy nefaid i sy'n byw ar fy mhorfa i, ydy fy mhobl i. A fi ydy'ch Duw chi,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 34