17. “‘Ie, dyma beth mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi'r defaid: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall, a rhwng yr hyrddod a'r bychod geifr.
18. Ydy bwydo ar borfa dda ddim digon i chi? Oes rhaid i chi sathru gweddill y borfa hefyd? Wrth yfed y dŵr glân oes rhaid i chi faeddu gweddill y dŵr drwy sathru'r mwd?
19. Pam ddylai gweddill fy nefaid i orfod bwyta'r borfa sydd wedi ei sathru gynnoch chi ac yfed dŵr sydd wedi ei faeddu?
20. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng y defaid tewion a'r defaid tenau.
21. Dych chi'r rhai cryfion wedi gwthio'r rhai gwan o'r ffordd. Dych chi wedi eu cornio nhw a'i gyrru nhw i ffwrdd.
22. Ond dw i'n mynd i achub fy nefaid. Fyddan nhw ddim yn cael eu cam-drin o hyn ymlaen. Ydw, dw i'n mynd i wahaniaethu rhwng un ddafad a'r llall.
23. “‘Dw i'n mynd i apwyntio un bugail i ofalu amdanyn nhw, sef fy ngwas Dafydd. Bydd e yn fugail arnyn nhw.
24. Fi, yr ARGLWYDD fydd eu Duw nhw, a'm gwas Dafydd fydd pennaeth y wlad i'w harwain nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.
25. “‘Bydda i'n gwneud ymrwymiad i roi heddwch iddyn nhw. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid gwylltion o'r tir. Byddan nhw'n saff i aros yn yr anialwch, ac yn gallu cysgu yn y goedwig hyd yn oed.
26. Bydda i'n eu bendithio nhw, a'r ardaloedd o gwmpas fy mryn hefyd. Bydd glaw yn disgyn ar yr adeg iawn; cawodydd yn dod â bendith!