Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:23-33 beibl.net 2015 (BNET)

23. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

24. “Ddyn, mae'r rhai sy'n byw yng nghanol adfeilion Israel yn siarad fel yma: ‘Un dyn oedd Abraham, ac eto llwyddodd i feddiannu'r wlad i gyd! Mae yna lot fawr ohonon ni. Mae'r wlad yma'n siŵr o gael ei rhoi i ni!’

25. Felly, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo, yn addoli eilun-dduwiau ac yn lladd pobl ddiniwed. Ydych chi wir yn meddwl y bydd y wlad yn cael ei rhoi i chi?

26. Dych chi'n dibynnu ar eich arfau, yn gwneud pethau ffiaidd, ac yn cysgu gyda gwraig rhywun arall. Fydd y wlad yn cael ei rhoi i chi?’

27. “Dywed hyn wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, bydd y rhai sy'n byw yng nghanol yr adfeilion yn cael eu lladd gan y cleddyf, a phawb ar y tir agored yn fwyd i anifeiliaid gwylltion, a bydd y rhai sy'n cuddio mewn cuddfannau saff ac ogofâu yn cael eu taro'n farw gan heintiau.

28. Bydda i'n troi'r wlad yn anialwch diffaith. Bydd ei balchder yn ei grym yn dod i ben. Bydd mynyddoedd Israel mor anial, fydd neb yn cerdded drostyn nhw.’

29. Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n troi'r wlad yn anialwch diffaith o achos yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi eu gwneud.

30. “Ddyn, mae dy bobl yn siarad amdanat ti o gwmpas y ddinas ac ar y stepen drws, ac yn dweud wrth ei gilydd, ‘Dewch i wrando ar y neges gan yr ARGLWYDD.’

31. Mae tyrfa ohonyn nhw'n dod ac yn eistedd o dy flaen di. Maen nhw'n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu. Dŷn nhw ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud. Maen nhw'n gofyn am fwy ond gwneud arian ac elwa ar draul pobl eraill ydy eu hobsesiwn nhw.

32. Adloniant ydy'r cwbl iddyn nhw. Ti fel canwr yn canu caneuon serch. Mae gen ti lais hyfryd ac rwyt ti'n offerynnwr medrus. Maen nhw'n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu.

33. Pan fydd y cwbl yn dod yn wir – ac mae'n mynd i ddigwydd – byddan nhw'n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33