Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:19-27 beibl.net 2015 (BNET)

19. Ond os ydy pobl ddrwg yn troi cefn ar eu pechod ac yn gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, byddan nhw'n cael byw.

20. Ac eto, dych chi bobl Israel yn dweud, ‘Dydy beth mae'r Meistr yn ei wneud ddim yn iawn!’ Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail beth dych chi wedi ei wneud.”

21. Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r degfed mis, dyma ffoadur oedd wedi llwyddo i ddianc o Jerwsalem yn dod ata i a dweud, “Mae'r ddinas wedi syrthio!”

22. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i y noson cynt, ac erbyn i'r ffoadur gyrraedd y bore wedyn roeddwn i'n gallu siarad eto. Oeddwn, roeddwn i'n gallu siarad; doeddwn i ddim yn fud.

23. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

24. “Ddyn, mae'r rhai sy'n byw yng nghanol adfeilion Israel yn siarad fel yma: ‘Un dyn oedd Abraham, ac eto llwyddodd i feddiannu'r wlad i gyd! Mae yna lot fawr ohonon ni. Mae'r wlad yma'n siŵr o gael ei rhoi i ni!’

25. Felly, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo, yn addoli eilun-dduwiau ac yn lladd pobl ddiniwed. Ydych chi wir yn meddwl y bydd y wlad yn cael ei rhoi i chi?

26. Dych chi'n dibynnu ar eich arfau, yn gwneud pethau ffiaidd, ac yn cysgu gyda gwraig rhywun arall. Fydd y wlad yn cael ei rhoi i chi?’

27. “Dywed hyn wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, bydd y rhai sy'n byw yng nghanol yr adfeilion yn cael eu lladd gan y cleddyf, a phawb ar y tir agored yn fwyd i anifeiliaid gwylltion, a bydd y rhai sy'n cuddio mewn cuddfannau saff ac ogofâu yn cael eu taro'n farw gan heintiau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33