Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:14-24 beibl.net 2015 (BNET)

14. Ond os ydw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a hwnnw wedyn yn troi cefn ar ei bechod a gwneud beth sy'n iawn ac yn dda

15. (Os bydd e'n talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes, yn rhoi beth mae wedi ei ddwyn yn ôl, yn cadw'r deddfau sy'n rhoi bywyd ac yn peidio pechu) bydd e'n cael byw. Fydd e ddim yn marw.

16. Bydd y pechodau wnaeth e yn cael eu hanghofio. Mae e'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, a bydd e'n cael byw.”

17. “Ond mae dy bobl yn dweud, ‘Dydy beth mae'r Meistr yn ei wneud ddim yn iawn!’ Y gwir ydy mai'r ffordd maen nhw'n ymddwyn sydd ddim yn iawn!

18. Pan mae pobl sy'n gwneud beth sy'n iawn yn newid eu ffyrdd ac yn dewis gwneud drwg, byddan nhw'n marw.

19. Ond os ydy pobl ddrwg yn troi cefn ar eu pechod ac yn gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, byddan nhw'n cael byw.

20. Ac eto, dych chi bobl Israel yn dweud, ‘Dydy beth mae'r Meistr yn ei wneud ddim yn iawn!’ Felly, bobl Israel, bydda i'n barnu pob un ohonoch chi ar sail beth dych chi wedi ei wneud.”

21. Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o'r degfed mis, dyma ffoadur oedd wedi llwyddo i ddianc o Jerwsalem yn dod ata i a dweud, “Mae'r ddinas wedi syrthio!”

22. Roedd yr ARGLWYDD wedi fy nghyffwrdd i y noson cynt, ac erbyn i'r ffoadur gyrraedd y bore wedyn roeddwn i'n gallu siarad eto. Oeddwn, roeddwn i'n gallu siarad; doeddwn i ddim yn fud.

23. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

24. “Ddyn, mae'r rhai sy'n byw yng nghanol adfeilion Israel yn siarad fel yma: ‘Un dyn oedd Abraham, ac eto llwyddodd i feddiannu'r wlad i gyd! Mae yna lot fawr ohonon ni. Mae'r wlad yma'n siŵr o gael ei rhoi i ni!’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33