Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:12-19 beibl.net 2015 (BNET)

12. “Ddyn, dywed wrth dy bobl, ‘Fydd daioni y bobl sy'n gwneud beth sy'n iawn ddim yn eu hachub nhw pan fyddan nhw'n gwrthryfela. A fydd drygioni pobl ddrwg ddim yn eu condemnio nhw os gwnân nhw newid eu ffyrdd a stopio gwneud drwg. Fydd yr holl bethau da mae rhywun wedi ei gwneud ddim yn ei achub os ydy e'n dewis pechu wedyn.’

13. Os dw i'n dweud wrth rywun sy'n gwneud beth sy'n iawn ei fod yn cael byw ac mae e'n dewis pechu wedyn, bydd yr holl bethau da wnaeth e yn cael eu hanghofio. Bydd e'n marw am ei fod wedi pechu.

14. Ond os ydw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a hwnnw wedyn yn troi cefn ar ei bechod a gwneud beth sy'n iawn ac yn dda

15. (Os bydd e'n talu'n ôl beth gafodd ei roi iddo'n ernes, yn rhoi beth mae wedi ei ddwyn yn ôl, yn cadw'r deddfau sy'n rhoi bywyd ac yn peidio pechu) bydd e'n cael byw. Fydd e ddim yn marw.

16. Bydd y pechodau wnaeth e yn cael eu hanghofio. Mae e'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, a bydd e'n cael byw.”

17. “Ond mae dy bobl yn dweud, ‘Dydy beth mae'r Meistr yn ei wneud ddim yn iawn!’ Y gwir ydy mai'r ffordd maen nhw'n ymddwyn sydd ddim yn iawn!

18. Pan mae pobl sy'n gwneud beth sy'n iawn yn newid eu ffyrdd ac yn dewis gwneud drwg, byddan nhw'n marw.

19. Ond os ydy pobl ddrwg yn troi cefn ar eu pechod ac yn gwneud beth sy'n iawn ac yn dda, byddan nhw'n cael byw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33