Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 33:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma fi'n cael neges arall gan yr ARGLWYDD:

2. “Ddyn, dywed hyn wrth dy bobl, ‘Pan dw i'n gadael i fyddin ymosod ar wlad, mae pobl y wlad honno'n dewis un o'i plith i fod yn wyliwr.

3. Mae'n gweld byddin y gelyn yn dod ac yn chwythu'r corn hwrdd i rybuddio'r bobl.

4. Os ydy pobl yn clywed y corn hwrdd ond yn cymryd dim sylw, nhw fydd ar fai pan gân nhw eu lladd.

5. Roedden nhw wedi clywed y corn hwrdd, ond ei anwybyddu. Arnyn nhw mae'r bai. Petaen nhw wedi gwrando bydden nhw'n dal yn fyw.

6. Ond beth petai'r gwyliwr heb ganu'r corn hwrdd i rybuddio'r bobl pan welodd y fyddin yn dod? Mae rhywun yn cael ei ladd. Mae'r person hwnnw'n marw am ei fod e'i hun wedi pechu, ond bydda i'n dal y gwyliwr yn gyfrifol am achosi iddo gael ei ladd.

7. “Ddyn, ti dw i wedi ei benodi yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti.

8. Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim yn ei rybuddio fod rhaid iddo newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i yn dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw.

9. Ond os byddi di wedi ei rybuddio i newid ei ffyrdd, ac yntau wedi gwrthod gwneud hynny, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun.

10. “Ddyn, dyma rwyt ti i'w ddweud wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi bod yn dweud, “Mae hyn i gyd yn digwydd am ein bod ni wedi gwrthryfela ac wedi pechu. Mae wedi darfod arnon ni. Pa obaith sydd?”’

11. Wel, dywed wrthyn nhw, ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dydy gweld pobl ddrwg yn marw yn rhoi dim pleser i mi. Byddai'n well gen i iddyn nhw newid eu ffyrdd a chael byw. Dewch bobl Israel, trowch gefn ar eich drygioni. Pam ddylech chi farw?’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 33