Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. Bydd pob golau yn yr awyr yn diffodd,a bydd tywyllwch drwy'r wlad i gyd,”meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

9. “Bydd pobloedd lawer wedi cynhyrfu pan fydd y cenhedloedd yn clywed am dy ddinistr. Hyd yn oed gwledydd dwyt ti erioed wedi clywed amdanyn nhw.

10. Bydd pobl mewn sioc o glywed beth fydd wedi digwydd i ti. Bydd brenhinoedd wedi dychryn am eu bywydau pan fydda i'n chwifio fy nghleddyf o'u blaenau nhw. Ar y diwrnod y byddi di'n syrthio byddan nhw'n crynu trwyddynt yn ofni am eu bywydau eu hunain.”

11. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd cleddyf brenin Babilon yn ymosod arnat ti.

12. Bydda i'n gwneud i gleddyfau milwyr cryfionladd dy fyddin enfawr di –nhw ydy'r milwyr mwyaf creulon sydd.Byddan nhw'n torri balchder yr Aifft,a bydd ei byddin enfawr yn cael ei dinistrio.

13. Bydd yr anifeiliaid sy'n pori ar lan y dŵryn cael eu lladd i gyd.Fydd y dŵr ddim yn cael ei faeddu etogan draed dynol na charnau anifeiliaid.

14. Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir,a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew.“Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32