Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:23-32 beibl.net 2015 (BNET)

23. Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd!

24. “Mae Elam yna, a beddau ei byddin enfawr hithau ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf. Hwythau'n baganiaid wedi mynd i lawr i ddyfnder y ddaear, ond ar un adeg yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!

25. Mae hithau'n gorffwys gyda'r meirw, a beddau ei byddin enfawr ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd. Bellach maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll!

26. “Mae Meshech a Twbal yna, a beddau eu byddinoedd hwythau ym mhobman. Paganiaid wedi eu lladd gan y cleddyf am eu bod wedi codi dychryn ar bawb drwy'r byd.

27. Dŷn nhw ddim gydag arwyr dewr y gorffennol, wedi eu claddu'n anrhydeddus gyda'i harfau – gyda'r cleddyf wedi ei osod dan y pen a'r darian yn gorwedd ar yr esgyrn. Roedden nhw hefyd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd.

28. A byddi dithau, y Pharo, yn gorwedd wedi dy dorri gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf!

29. “Mae Edom yna, gyda'i brenhinoedd a'i phenaethiaid i gyd. Er eu bod mor gryf ar un adeg, maen nhw'n gorwedd gyda'r rhai sydd wedi eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd gyda'r paganiaid eraill sydd wedi mynd i lawr i'r Pwll.

30. “Mae arweinwyr gwledydd y gogledd yno i gyd, a'r Sidoniaid. Y rhai oedd yn codi dychryn bellach yn gorwedd mewn cywilydd gyda'r meirw – gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf. Maen nhw'n gorwedd mewn cywilydd gyda phawb arall sy'n disgyn i'r Pwll.

31. “Bydd y Pharo yn eu gweld, ac yn cael ei gysuro mai nid ei fyddin enfawr e oedd yr unig un i gael ei lladd gan y cleddyf,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

32. “Er fy mod wedi eu defnyddio nhw i godi dychryn ar bawb drwy'r byd, bydd y Pharo a'i fyddin yn gorwedd gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd gan y cleddyf.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32