Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:2-16 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho:‘Roeddet ti'n gweld dy hun fel llew yng nghanol y gwledydd,ond ti fwy fel draig yn y môr.Ti'n sblasio yn y ffosydd,ac yn corddi'r dŵr gyda dy draeda baeddu'r ffosydd.’

3. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Bydda i'n taflu fy rhwyd drosot ti(bydd tyrfa enfawr o bobl yno),ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda'm llusgrwyd.

4. Wedyn bydda i'n dy daflu di ar dir sych,a bydd yr adar yn dod ac yn byw arnat ti,a'r anifeiliaid gwylltion yn llenwi eu hunain arnat.

5. Bydd dy gig ar y mynyddoedda'r gweddillion yn y dyffrynnoedd.

6. Bydda i'n socian y tir gyda dy waed di,yr holl ffordd i ben y mynyddoedd,a bydd dy waed yn llenwi'r ceunentydd i gyd.

7. Pan fydda i'n dy ddiffodd bydda i'n rhoi gorchudd ar yr awyr,ac yn diffodd y sêr i gyd.Bydd cwmwl yn cuddio'r haul,ac yn rhwystro'r lleuad rhag llewyrchu.

8. Bydd pob golau yn yr awyr yn diffodd,a bydd tywyllwch drwy'r wlad i gyd,”meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.

9. “Bydd pobloedd lawer wedi cynhyrfu pan fydd y cenhedloedd yn clywed am dy ddinistr. Hyd yn oed gwledydd dwyt ti erioed wedi clywed amdanyn nhw.

10. Bydd pobl mewn sioc o glywed beth fydd wedi digwydd i ti. Bydd brenhinoedd wedi dychryn am eu bywydau pan fydda i'n chwifio fy nghleddyf o'u blaenau nhw. Ar y diwrnod y byddi di'n syrthio byddan nhw'n crynu trwyddynt yn ofni am eu bywydau eu hunain.”

11. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydd cleddyf brenin Babilon yn ymosod arnat ti.

12. Bydda i'n gwneud i gleddyfau milwyr cryfionladd dy fyddin enfawr di –nhw ydy'r milwyr mwyaf creulon sydd.Byddan nhw'n torri balchder yr Aifft,a bydd ei byddin enfawr yn cael ei dinistrio.

13. Bydd yr anifeiliaid sy'n pori ar lan y dŵryn cael eu lladd i gyd.Fydd y dŵr ddim yn cael ei faeddu etogan draed dynol na charnau anifeiliaid.

14. Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir,a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew.“Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

15. Pan fydda i'n troi gwlad yr Aifft yn anialwchac yn dinistrio popeth sydd ynddi;Pan fydda i'n lladd pawb sy'n byw yno,byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD.

16. “Dyma'r gân angladdol fyddan nhw'n ei chanu. Bydd merched y gwledydd i gyd yn ei chanu ac yn galaru am yr Aifft a'i byddin enfawr.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32