Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:14-23 beibl.net 2015 (BNET)

14. Bydd y dŵr drwy'r Aifft yn glir,a'r afonydd yn llifo'n llyfn fel olew.“Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

15. Pan fydda i'n troi gwlad yr Aifft yn anialwchac yn dinistrio popeth sydd ynddi;Pan fydda i'n lladd pawb sy'n byw yno,byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD.

16. “Dyma'r gân angladdol fyddan nhw'n ei chanu. Bydd merched y gwledydd i gyd yn ei chanu ac yn galaru am yr Aifft a'i byddin enfawr.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

17. Ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pymthegfed diwrnod o'r un mis, dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD.

18. “Ddyn, uda dros fyddin yr Aifft. ‘I lawr â hi! I lawr â hi at drefi a dinasoedd y gwledydd pwerus eraill sydd yn nyfnder y ddaear. I lawr â hi gyda phawb sy'n mynd i'r Pwll!’

19. Wyt ti'n harddach na'r gwledydd eraill? Na!Dos i lawr i orwedd gyda'r gwledydd paganaidd.

20. Byddi'n gorwedd gyda phawb arallsydd wedi eu lladd mewn rhyfel!Mae'r cleddyf yn barod i'w taro nhw;bydd yr Aifft a'i byddin yn cael eu llusgo i ffwrdd.

21. Bydd arweinwyr grymus y gwledyddyn gwawdio'r Aifft a'i chefnogwyr:‘Dyma nhw wedi cyrraedd,i orwedd gyda'r paganiaid eraillsydd wedi eu lladd gan y cleddyf.’

22. “Mae brenin Asyria yna, a beddau ei fyddin enfawr ym mhobman. Pob un wedi ei ladd gan y cleddyf.

23. Mae eu beddau yn gorchuddio llethrau dyfnaf y Pwll, ac mae ei chefnogwyr o'i chwmpas. Ie, dyma nhw, y rhai oedd yn codi dychryn ar bawb drwy'r byd!

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32