Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 32:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd hi ddeuddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r deuddegfed mis, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:

2. “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl y Pharo, brenin yr Aifft, a dweud wrtho:‘Roeddet ti'n gweld dy hun fel llew yng nghanol y gwledydd,ond ti fwy fel draig yn y môr.Ti'n sblasio yn y ffosydd,ac yn corddi'r dŵr gyda dy draeda baeddu'r ffosydd.’

3. Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Bydda i'n taflu fy rhwyd drosot ti(bydd tyrfa enfawr o bobl yno),ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda'm llusgrwyd.

4. Wedyn bydda i'n dy daflu di ar dir sych,a bydd yr adar yn dod ac yn byw arnat ti,a'r anifeiliaid gwylltion yn llenwi eu hunain arnat.

5. Bydd dy gig ar y mynyddoedda'r gweddillion yn y dyffrynnoedd.

6. Bydda i'n socian y tir gyda dy waed di,yr holl ffordd i ben y mynyddoedd,a bydd dy waed yn llenwi'r ceunentydd i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 32