Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 30:6-13 beibl.net 2015 (BNET)

6. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:‘Bydd y rhai sy'n cefnogi'r Aifft yn syrthio.Bydd ei balchder yn ei grym yn chwilfriw!Bydd pawb yn cael eu lladd yn y brwydroyr holl ffordd o Migdol i Aswan.’”—y Meistr, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.

7. “‘Bydd yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion.

8. Byddan nhw'n sylweddoli mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n cynnau tân yn yr Aifft ac yn sathru pawb sy'n ei chefnogi.

9. Pan fydd hynny'n digwydd bydda i'n anfon negeswyr mewn llongau i ddychryn pobl ddibryder teyrnas Cwsh. Pan glywan nhw beth sy'n digwydd i'r Aifft bydd panig yn dod drostyn nhw! Gwyliwch! Mae'n dod!’”

10. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddefnyddio Nebwchadnesar, brenin Babilon, i roi diwedd ar fyddin enfawr yr Aifft.

11. Bydd e a'i fyddin, byddin y wlad fwya creulon yn y byd, yn dod i lawr i ddinistrio'r Aifft. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau i ymosod, ac yn llenwi'r wlad gyda chyrff marw.

12. Bydda i'n sychu ei ffosydd, ac yn rhoi'r wlad yn nwylo dynion drwg. Bydda i'n defnyddio byddin estron i ddinistrio'r wlad a phopeth ynddi. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod!

13. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddinistrio dy eilunod, a chael gwared â duwiau diwerth Memffis. Fydd neb ar ôl i arwain gwlad yr Aifft. Bydd dychryn drwy'r wlad i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 30