Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 30:17-25 beibl.net 2015 (BNET)

17. Bydd milwyr ifanc Heliopolis a Bwbastis yn cael eu lladd, a'r bobl i gyd yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.

18. Bydd hi'n ddiwrnod tywyll ar Tachpanches pan fydda i'n dod â grym gwleidyddol yr Aifft i ben. Bydd ei balchder yn ei grym wedi darfod. Bydd cwmwl yn ei gorchuddio, a bydd ei merched yn cael eu cymryd i ffwrdd yn gaethion.

19. Dw i'n mynd i farnu'r Aifft. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”

20. Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y seithfed diwrnod o'r mis cyntaf, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:

21. “Ddyn, dw i wedi torri braich y Pharo, brenin yr Aifft. Dydy'r fraich ddim wedi cael ei rhwymo i roi cyfle iddi wella, ac felly fydd hi byth yn ddigon cryf i drin cleddyf eto.

22. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwyliwch chi! Dw i'n mynd i ddelio gyda'r Pharo, brenin yr Aifft. Dw i'n mynd i dorri ei freichiau – y fraich gref, a'r un sydd eisoes wedi torri – a bydd ei gleddyf yn syrthio ar lawr.

23. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd.

24. Ond bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ac yn rhoi fy nghleddyf i yn ei law. Bydda i'n torri breichiau'r Pharo, a bydd e'n griddfan mewn poen, fel dyn wedi ei anafu ac sydd ar fin marw.

25. Bydda i'n cryfhau breichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau'r Pharo yn llipa. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi rhoi'r cleddyf yn llaw brenin Babilon iddo ymosod ar wlad yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 30