Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 30:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2. “Ddyn, proffwyda a dywed: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Uda, “O na! Mae'r diwrnod wedi dod!”

3. Ydy, mae'r diwrnod mawr yn agos;dydd barn yr ARGLWYDD!Diwrnod o gymylau duon bygythiol;amser anodd i'r gwledydd i gyd.

4. Mae byddin yn dod i ymosod ar yr Aiffta bydd teyrnas Cwsh mewn panigwrth weld pobl yr Aifft yn syrthio'n farw,cyfoeth y wlad yn cael ei gario i ffwrdda'i sylfeini'n cael eu dinistrio.

5. “‘Bydd pobl o ddwyrain Affrica, Pwt, Lydia a Libia sy'n byw yn yr Aifft, a hyd yn oed pobl Israel sy'n byw yno yn cael eu lladd yn y rhyfel.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 30