Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 3:9-16 beibl.net 2015 (BNET)

9. Bydda i'n dy wneud di yn galed fel diemwnt (sy'n gletach na charreg fflint!) Paid bod ag ofn. Paid gadael iddyn nhw dy ddychryn di. Maen nhw'n griw o rebeliaid.

10. “Felly, gwranda di'n ofalus ar bopeth dw i'n ddweud, a'i gymryd o ddifrif.

11. Dos at dy gydwladwyr, y bobl gafodd eu symud yma yn gaethion gyda ti. Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Dw i am i ti wneud hyn os ydyn nhw'n dewis gwrando neu beidio.”

12. Yna cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr. Clywais sŵn rymblan y tu ôl i mi wrth i ysblander yr ARGLWYDD godi o'i le.

13. Adenydd y creaduriaid byw oedd yn rhwbio yn erbyn ei gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hymyl yn troi. Roedd fel sŵn rymblan mawr.

14. Cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr, a'm cario i ffwrdd. Ro'n i'n teimlo'n flin ac yn llawn emosiwn. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr.

15. Dyma fi'n cyrraedd Tel-abib, sydd wrth ymyl Camlas Cebar. Bues i yno am wythnos, yn eistedd yn syfrdan yng nghanol y bobl oedd wedi cael eu caethgludo.

16. Yna ar ôl wythnos dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 3