Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 3:16-27 beibl.net 2015 (BNET)

16. Yna ar ôl wythnos dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:

17. “Ddyn, dw i'n dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti.

18. Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim wedi ei rybuddio a'i annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw.

19. Ond os byddi di wedi ei rybuddio, ac yntau wedi gwrthod newid ei ffyrdd, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun.

20. “Ar y llaw arall, os ydy rhywun sydd fel arfer yn gwneud beth sy'n iawn yn newid ei ffyrdd ac yn dechrau gwneud pethau drwg, bydda i'n achosi i rywbeth ddigwydd fydd yn gwneud i'r person hwnnw syrthio. Bydd e'n marw. Os na fyddi di wedi ei rybuddio bydd e'n marw am ei fod wedi pechu. Fydd y pethau da wnaeth e o'r blaen ddim yn cyfrif. A bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol am beth fydd yn digwydd.

21. Ond os byddi di wedi ei rybuddio fe i beidio pechu, ac yntau wedi gwrando arnat ti, bydd e'n cael byw, a byddi di hefyd wedi achub dy hun.”

22. Dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i, a dyma fe'n dweud, “Cod ar dy draed. Dos allan i'r dyffryn, a bydda i'n siarad gyda ti yno.”

23. Felly dyma fi'n codi'n syth, ac yn mynd allan i'r dyffryn. A dyma fi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD eto, yn union yr un fath ag wrth Gamlas Cebar. Syrthiais ar fy ngwyneb ar lawr.

24. Ond yna dyma ysbryd yn mynd i mewn i mi ac yn fy nghodi ar fy nhraed. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos, a cau dy hun i mewn yn dy dŷ.

25. Bydd y bobl yma'n dy rwymo di gyda rhaffau, er mwyn dy rwystro di rhag cymysgu gyda nhw y tu allan.

26. Bydda i'n gwneud i dy dafod di sticio i dop dy geg a fyddi di ddim yn gallu siarad na dweud wrthyn nhw beth maen nhw'n ei wneud o'i le. Maen nhw'n griw o rebeliaid.

27. Ond pan fydd gen i rywbeth i'w ddweud wrthot ti, bydda i'n agor dy geg di i ti allu dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Cân nhw ddewis os ydyn nhw am wrando neu beidio. Maen nhw'n griw o rebeliaid.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 3