Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 3:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma'r llais yn dweud wrtho i, “Ddyn, bwyta'r sgrôl yma sydd o dy flaen, ac wedyn mynd i siarad gyda phobl Israel.”

2. Felly dyma fi'n agor fy ngheg, a dyma fe'n bwydo'r sgrôl i mi.

3. A dyma fe'n dweud, “Ddyn, llenwa dy fol gyda'r sgrôl yma dw i'n ei rhoi i ti.” A dyma fi'n ei bwyta. Roedd hi'n blasu'n felys fel mêl.

4. A dyma fe'n dweud wrtho i, “Ddyn, dos at bobl Israel a dweud beth ydy fy neges i iddyn nhw.

5. Dw i ddim yn dy anfon di at bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall. Pobl Israel ydyn nhw.

6. Petawn i'n dy anfon di at dyrfa o bobl sy'n siarad iaith wyt ti ddim yn ei deall, mae'n siŵr y byddai'r rheiny yn gwrando arnat ti!

7. Ond fydd pobl Israel ddim yn gwrando arnat ti, achos dŷn nhw ddim yn fodlon gwrando arna i. Maen nhw'n bobl ofnadwy o benstiff ac ystyfnig.

8. Felly dw i'n mynd i dy wneud di'r un mor benderfynol a penstiff ag ydyn nhw!

9. Bydda i'n dy wneud di yn galed fel diemwnt (sy'n gletach na charreg fflint!) Paid bod ag ofn. Paid gadael iddyn nhw dy ddychryn di. Maen nhw'n griw o rebeliaid.

10. “Felly, gwranda di'n ofalus ar bopeth dw i'n ddweud, a'i gymryd o ddifrif.

11. Dos at dy gydwladwyr, y bobl gafodd eu symud yma yn gaethion gyda ti. Dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud.’ Dw i am i ti wneud hyn os ydyn nhw'n dewis gwrando neu beidio.”

12. Yna cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr. Clywais sŵn rymblan y tu ôl i mi wrth i ysblander yr ARGLWYDD godi o'i le.

13. Adenydd y creaduriaid byw oedd yn rhwbio yn erbyn ei gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hymyl yn troi. Roedd fel sŵn rymblan mawr.

14. Cododd yr ysbryd fi oddi ar y llawr, a'm cario i ffwrdd. Ro'n i'n teimlo'n flin ac yn llawn emosiwn. Roedd dylanwad yr ARGLWYDD arna i ac roedd yn rheoli beth oedd yn digwydd i mi yn llwyr.

15. Dyma fi'n cyrraedd Tel-abib, sydd wrth ymyl Camlas Cebar. Bues i yno am wythnos, yn eistedd yn syfrdan yng nghanol y bobl oedd wedi cael eu caethgludo.

16. Yna ar ôl wythnos dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:

17. “Ddyn, dw i'n dy benodi di yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i'n rhoi neges i ti.

18. Pan dw i'n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti'n siŵr o farw,’ a tithau ddim wedi ei rybuddio a'i annog i newid ei ffyrdd a byw, bydd e'n marw am ei fod wedi pechu a bydda i'n dy ddal di'n gyfrifol ei fod wedi marw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 3