Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 29:9-19 beibl.net 2015 (BNET)

9. Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.“‘Am dy fod wedi dweud “Fi piau'r Afon Nil, a fi sydd wedi ei chreu hi,”

10. dw i'n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i'n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia.

11. Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd – fydd dim pobl nag anifeiliaid yn crwydro yno.

12. Bydda i'n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd.

13. “‘Ond yna, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwedd y pedwar deg mlynedd bydda i'n casglu pobl yr Aifft o'r gwledydd lle roedden nhw ar chwâl.

14. Bydda i'n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft.

15. Bydd hi'n un o'r gwledydd lleia dylanwadol, a fydd hi byth yn rheoli gwledydd eraill eto.

16. A fydd Israel ddim yn pwyso arni byth eto. Bydd hi'n atgoffa Israel o'i phechod yn troi at yr Aifft am help. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”

17. Roedd hi ddau ddeg saith mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn. A dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:

18. “Ddyn, mae byddin Nebwchadnesar brenin Babilon wedi brwydro'n galed yn erbyn Tyrus. Maen nhw wedi gweithio'u bysedd at yr asgwrn, ond dydy'r milwyr wedi ennill dim ar ôl yr holl ymdrech!

19. Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd e'n cymryd holl gyfoeth y wlad ac yn ysbeilio ei thrysorau i dalu cyflog i'w filwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 29