Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 29:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a'r anifeiliaid yn cael eu lladd.

9. Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.“‘Am dy fod wedi dweud “Fi piau'r Afon Nil, a fi sydd wedi ei chreu hi,”

10. dw i'n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i'n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia.

11. Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd – fydd dim pobl nag anifeiliaid yn crwydro yno.

12. Bydda i'n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd.

13. “‘Ond yna, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwedd y pedwar deg mlynedd bydda i'n casglu pobl yr Aifft o'r gwledydd lle roedden nhw ar chwâl.

14. Bydda i'n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 29