Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 29:14-21 beibl.net 2015 (BNET)

14. Bydda i'n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft.

15. Bydd hi'n un o'r gwledydd lleia dylanwadol, a fydd hi byth yn rheoli gwledydd eraill eto.

16. A fydd Israel ddim yn pwyso arni byth eto. Bydd hi'n atgoffa Israel o'i phechod yn troi at yr Aifft am help. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”

17. Roedd hi ddau ddeg saith mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn. A dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:

18. “Ddyn, mae byddin Nebwchadnesar brenin Babilon wedi brwydro'n galed yn erbyn Tyrus. Maen nhw wedi gweithio'u bysedd at yr asgwrn, ond dydy'r milwyr wedi ennill dim ar ôl yr holl ymdrech!

19. Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd e'n cymryd holl gyfoeth y wlad ac yn ysbeilio ei thrysorau i dalu cyflog i'w filwyr.

20. Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft iddo i'w ddigolledu am yr holl ymdrech yn ymosod ar Tyrus. Mae e wedi bod yn gwneud hyn i mi.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.

21. “Bryd hynny bydda i'n gwneud Israel yn wlad gref unwaith eto, a bydd pobl yn gwrando ar beth rwyt ti'n ddweud. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 29