Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 29:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd hi ddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y deuddegfed diwrnod o'r degfed mis. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2. “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r Pharo, brenin yr Aifft, a proffwydo yn ei erbyn e a holl wlad yr Aifft.

3. Dyma rwyt ti i'w ddweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Dw i'n mynd i ddelio gyda ti!y Pharo, brenin yr Aifft;y ddraig fawr sy'n gorweddyng nghanol ei ffosydd.“Fi piau'r Afon Nil,” meddet ti,“a fi sydd wedi ei chreu hi.”

4. Bydda i'n rhoi bachyn yn dy ênac yn dy lusgo allan o'r dŵrgyda pysgod o'r ffosydd ynglynu wrth dy groen.

5. Bydda i'n dy daflu i'r anialwch,ti a physgod y ffosydd.Byddi'n gorwedd, heb dy gladdu,i farw ar dir agored –yn fwyd i'r anifeiliaid ac i'r adar.

6. Yna bydd pawb sy'n byw yn yr Aifftyn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD.Ti wedi bod yn ffon fagl wan fel brwyneni bobl Israel bwyso arni.

7. Dyma nhw'n gafael ynot ti,ond dyma ti'n torriac yn bwrw eu hysgwydd o'i lle.Wrth iddyn nhw bwyso arnat tidyma ti'n holltia gadael eu cluniau'n sigledig.

8. “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a'r anifeiliaid yn cael eu lladd.

9. Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.“‘Am dy fod wedi dweud “Fi piau'r Afon Nil, a fi sydd wedi ei chreu hi,”

10. dw i'n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i'n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia.

11. Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd – fydd dim pobl nag anifeiliaid yn crwydro yno.

12. Bydda i'n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 29