Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 28:21-26 beibl.net 2015 (BNET)

21. “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Sidon, a proffwydo yn ei herbyn hi.

22. Dywed fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Sidon. Dw i'n mynd i ddangos fy ysblander yn dy ganol di. Bydd pobl yn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n ei barnu hi, ac yn dangos y gallu sydd gen i a neb arall.

23. Bydda i'n anfon afiechydon ofnadwy a thrais ar ei strydoedd. Bydd ei phobl yn cael eu lladd wrth i fyddin ymosod arni o bob cyfeiriad. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

24. “‘Fydd pobl Israel ddim yn gorfod diodde eu cymdogion maleisus yn pigo ac yn rhwygo fel drain a mieri. A byddan nhw hefyd yn deall mai fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr.

25. “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Bydda i'n casglu pobl Israel at ei gilydd o'r holl wledydd lle maen nhw ar chwâl. Bydda i'n dangos y gallu sydd gen i a neb arall i'r gwledydd i gyd. Bydd pobl Israel yn byw unwaith eto yn y tir rois i i'm gwas Jacob.

26. Byddan nhw'n cael byw yno'n saff, adeiladu tai a plannu gwinllannoedd. Byddan nhw'n cael byw yn saff ar ôl i mi farnu'r cymdogion maleisus sydd o'u cwmpas nhw. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD, eu Duw nhw.’”

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 28