Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 28:15-23 beibl.net 2015 (BNET)

15. O'r diwrnod y cest dy greu roeddet ti'n ymddwyn yn berffaith… ond yna cest dy ddal yn pechu.

16. Roedd yr holl fasnachu wedi dy droi yn dreisiol.Dyma ti'n pechu.Dyma fi'n dy yrru i ffwrdd o fynydd Duw.Roedd yr angel gwarcheidiol yn dy gadw draw o'r gemau o dân.

17. Roeddet wedi troi'n falch am dy fod mor hardd.Camddefnyddio dy ddoethineb am dy fod mor llawn ohonot dy hun.A dyna pam wnes i dy fwrw i lawr,a gwneud sioe ohonot ti o flaen brenhinoedd eraill.

18. Roeddet wedi dinistrio dy leoedd cysegredigo achos dy holl ddrygionia'r twyllo wrth fasnachu.Felly dyma fi'n gwneud i dân gynnau y tu mewn i ti;a dy ddifa di.Llosgaist yn dwr o ludw o flaen pawb.

19. Roedd pawb oedd yn dy nabod mewn sioc,am fod dy ddiwedd wedi bod mor erchyll.’”

20. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

21. “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Sidon, a proffwydo yn ei herbyn hi.

22. Dywed fel yma, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Gwylia dy hun! Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Sidon. Dw i'n mynd i ddangos fy ysblander yn dy ganol di. Bydd pobl yn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD pan fydda i'n ei barnu hi, ac yn dangos y gallu sydd gen i a neb arall.

23. Bydda i'n anfon afiechydon ofnadwy a thrais ar ei strydoedd. Bydd ei phobl yn cael eu lladd wrth i fyddin ymosod arni o bob cyfeiriad. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 28