Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 28:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2. “Dywed wrth dywysog Tyrus, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ti mor falch! Ti'n meddwl dy fod ti'n dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y moroedd! Duw wir! Dim ond dyn meidrol wyt ti, er dy fod yn honni pethau mor fawr.

3. Ti'n meddwl dy fod ti'n fwy doeth na Daniel! Does dim byd sy'n ddirgelwch i ti!

4. Ti wedi defnyddio dy graffter a dy glyfrwch i gael mwy o gyfoeth. Ti wedi casglu aur ac arian i dy goffrau.

5. Ti wedi defnyddio dy graffter masnachol i gael mwy o gyfoeth, ond mae dy gyfoeth wedi chwyddo dy ben.

6. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod yn meddwl dy fod ti'n dduw

7. dw i'n mynd i ddod â byddin o wlad estron yn dy erbyn di – y wlad fwya creulon sydd. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau ac yn taro dy glyfrwch rhyfeddol a difetha dy ysblander.

8. Byddi'n cael dy anfon i lawr i Bwll distryw ac yn marw'n greulon yng nghanol y môr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 28