Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 28:1-14 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

2. “Dywed wrth dywysog Tyrus, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ti mor falch! Ti'n meddwl dy fod ti'n dduw, ac yn eistedd ar orsedd y duwiau yng nghanol y moroedd! Duw wir! Dim ond dyn meidrol wyt ti, er dy fod yn honni pethau mor fawr.

3. Ti'n meddwl dy fod ti'n fwy doeth na Daniel! Does dim byd sy'n ddirgelwch i ti!

4. Ti wedi defnyddio dy graffter a dy glyfrwch i gael mwy o gyfoeth. Ti wedi casglu aur ac arian i dy goffrau.

5. Ti wedi defnyddio dy graffter masnachol i gael mwy o gyfoeth, ond mae dy gyfoeth wedi chwyddo dy ben.

6. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am dy fod yn meddwl dy fod ti'n dduw

7. dw i'n mynd i ddod â byddin o wlad estron yn dy erbyn di – y wlad fwya creulon sydd. Byddan nhw'n tynnu eu cleddyfau ac yn taro dy glyfrwch rhyfeddol a difetha dy ysblander.

8. Byddi'n cael dy anfon i lawr i Bwll distryw ac yn marw'n greulon yng nghanol y môr.

9. Wyt ti'n mynd i ddal ati i honni dy fod yn dduw pan fyddi wyneb yn wyneb â'r rhai fydd yn dy ladd? Dyn meidrol fyddi di yn eu golwg nhw, nid duw!

10. Byddi'n cael dy ladd yn y ffordd fwya creulon gan fyddin o wlad estron. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’”

11. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:

12. “Ddyn, dw i eisiau i ti ganu cân i alaru ar ôl brenin Tyrus. Dywed wrtho, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud:Roeddet ti'n batrwm o berffeithrwydd!Mor ddoeth, ac yn rhyfeddol o hardd!

13. Roeddet ti'n byw yn Eden, gardd Duw.Roeddet wedi dy addurno gyda gemau gwerthfawr– rhuddem, topas, emrallt, saffir melyn,onics, iasbis, saffir, glasfaen, a beryl.Roedd y cwbl wedi eu gosod yn gywrain mewn aur pur,ac wedi eu cyflwyno i ti ar y diwrnod cest ti dy greu.

14. Roeddwn wedi dy osod ynogydag angel gwarcheidiol â'i adenydd ar led,ar y mynydd wnaeth Duw ei gysegru.Roeddet yn cerdded yng nghanol y gemau o dân.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 28