Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 26:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn, a dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:

2. “Ddyn, dyma mae Tyrus wedi bod yn ei ddweud am Jerwsalem:‘Hwrê! Mae'r giâti'r ddinas fasnach ryngwladolwedi ei dryllio!Bydda i'n cael ei busnes!Dw i'n mynd i fod yn gyfoethog!Ydy, mae hi wedi'i dinistrio.’

3. “Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch eich hunain! Dw i'n mynd i ddelio gyda chi! O, Tyrus! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod yn dy erbyn di fel tonnau gwyllt y môr.

4. Byddan nhw'n dinistrio dy waliau ac yn bwrw'r tyrau amddiffynnol i lawr.’ Bydda i'n clirio'r rwbel oddi arni ac yn gadael dim ar ôl ond craig noeth.

5. Bydd fel ynys yng nghanol y môr, yn dda i ddim ond i daenu rhwydau pysgota. Fi ydy'r ARGLWYDD, y Meistr, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod. Bydd byddinoedd o wledydd eraill yn concro Tyrus,

6. a bydd y pentrefi yn yr ardal o'i chwmpas yn cael eu dinistrio yn y rhyfel. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.

7. “Ie, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Gwyliwch chi! Dw i'n dod â'r brenin Nebwchadnesar, yr un sy'n frenin ar frenhinoedd, i lawr o Babilon yn y gogledd, a bydd yn ymosod ar Tyrus. Bydd ganddo geffylau, cerbydau rhyfel, marchogion a byddin enfawr.

8. Bydd yn dinistrio'r pentrefi gwledig o dy gwmpas di. Wedyn bydd yn codi tyrau gwarchae a rampiau i ymosod arnat ti. Bydd llu o filwyr gyda'i tariannau yn dod yn dy erbyn di!

9. Bydd yn bwrw dy waliau gyda'i hyrddod rhyfel ac yn chwalu dy dyrau amddiffynnol gyda'i arfau haearn.

10. Bydd y llwch fydd yn cael ei godi gan yr holl geffylau rhyfel yn dy orchuddio di! Bydd sŵn y cafalri a'r holl wagenni a cherbydau rhyfel yn ddigon i ysgwyd dy waliau di. Bydd e'n dod i mewn trwy dy giatiau yn fuddugoliaethus ar ôl i'w fyddin dorri trwy'r waliau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 26